FANDOM


Cau Mynachlogydd
Cau Mynachlogydd
Côd: HY1.2
Dyfyniad(au): Elw
Canran Modiwl: 0.8%

Cau Mynachlogydd oedd gweithred gan Harri VIII i gau pob Mynachlog i lawr er mwyn casglu arian i'r goron.

StoriEdit

Cyn y Diwygiad yn Ewrop roedd yna dros 800 o fynachlogydd ac abatai yn Lloegr, roeddent yn ganolog i fywydau'r tlawd a chyfoethog. Er mai prif fwriad y mynachlogydd oedd fel lle i weddïo, roedd y mynachod yn brif dirfeddianwyr y wlad ac yn brif gyflogwyr lleol trwy eu ffermydd. Dyma oedd canolfannau o gelfyddyd a dysg drwy eu llawysgrifau, darluniau a cherddoriaeth. Roedd yna nifer o urddau gwahanol megis y Sistersiaid a Benedictiaid. Er ei phwysigrwydd erbyn 1540 roedd y mwyafrif ohonynt wedi eu gwagio'n llwyr. Tynwyd y tô ffenestri ac unrhyw eiddo o'r adeiladau. Digwyddodd hyn yn 1536.

Pwyntiau YchwanegolEdit

  • Adeiladau'r mynachlogydd - Cafodd Harri ei gyhuddo o fandaliaeth ddiwylliannol wrth ddinistrio'r adeiladau crand a'r golled o lawysgrifau a delweddau. Er hyn sefydlodd ysgolion a phrifysgolion newydd megis Christchurch, Rhydychen, Caergrawnt a'r Drindod.
  • Mynachod - Lleiafrif o fynachod a wynebodd caledni. Darganfyddodd mwyafrif o'r mynachod swyddi eraill yn yr eglwys neu yn byw ar eu pensiwn.
  • Lleianod - Gwynebodd y lleianod fwy o broblemau. Nid oeddynt yn cael priodi na bod yn offeiriaid.
  • Tlodion - Yn draddodiadol roedd y mynachlogydd yn gymorth mawr i'r tlodion. Er hyn un achos ychwanegol oedd hyn ac mae AG Dickens yn dadlau nad yw wedi cyfrannu dim at broblemau tlodi yn y trefi.
  • Elw - Fe wnaeth Harri wario llawer o'r arian o'r tir i dalu am y rhyfeloedd yn erbyn Ffrainc a'r Alban. Fe wnaeth hyn arbed trwm ar y boblogaeth. Er hyn roedd hanner o'r tir dal ym meddiant y Brenin yn 1547.
  • Newid cymdeithasol - Ni ddylem gredu bod chwyldro cymdeithasol wedi digwydd. Er hyn roedd newid o ran pŵer yn lleol. Collodd aelodau clerigol ddylanwad i Ynadon Heddwch a'r Bonedd llai. Gwerthwyd mwyafrif o'r tir i fonedd a oedd yn berchen tir yn barod.

Gwelwch HefydEdit