Dyma ateb enghreifftiol da o sut i ateb cwestiwn ar wrthryfel Wyatt. Wrth gwrs, byddai angen ychydig mwy o ddyfnder i'r gwaith, ond mae digon o ffeithiau ac mae strwythur y traethawd yn berffaith.
Eglurwch pam digwyddodd gwrthryfel Wyatt. [24]
Mae nifer o resymau pam digwyddodd y gwrthryfel hon, ond mae rhai yn fwy gyfrifol nag eraill. Un rheswm oedd effaith crefyddol, ond cafodd hyn ei gorliwio gan y llywodraeth er mwyn osgoi problemau pellach. Cafodd llyfr ei gyhoeddi yn y cyfnod gan John Proctor sef “The Historie of Wyates Rebellion” a oedd yn honni mai crefydd oedd y brif rheswm. Cafodd ei hysgrifenu o safbwynt y llywodraeth oherwydd propaganda yw hwn i dynnu’r sylw i ffwrdd o bwnc y briodas. Ond, mewn ffordd gwahanol, roedd y gwrthryfelwyr a thueddiadau Protestannaidd, ond nid hyn oedd y rheswm am wrthryfela. Rheswm arall yw elfennau gwleidyddol. Roedd ansefydlogrwydd llywodraethol yn Swydd Caint. Ofnai unigolion y byddai Philip II yn dylanwadu are eu huchelgeision a chyfleon gyrfaol. Yn ogystal, roedd bodolaeth Lady Jane Grey yn fygythiol i Mari I ac yn ysbrydoli gwrthryfelwyr Protestannaidd i fod yn rhan o’r gwrthryfel. Y rheswm pwysicaf o ran amcanion y gwrthryfelwyr eu hun oedd effaith y Briodas. Cafodd Mari I cynnig gan lysgennad yn Sbaen i briodi Philip II yn 1553. Yn hwyrach yn y flwyddyn cytunodd. O ganlyniad i hyn, teimlodd unigolion y gwrthryfel y byddant yn cael ei rheoli fel gwlad gan dramorwyr. Mae yna hefyd elfen o senoffobia yn bodoli ymysg y gwrthryfelwyr fel dywedai llyfr arall o’r cyfnod. Er i Philip II ysgrifennu cytundeb i beidio gymryd y goron ar ol i Mari I marw roedd bygythiad oherwydd roedd y wlad o dan ddwylo menyw. Felly, i grynhoi, cafodd y gwrthyfel ei achosi a digwyddodd oherwydd senoffobia unigolion o dramorwyr yn cipio’r goron efo rhai rhesymau dros gwahaniaethau crefydd.