Adolygu Lefel A Wiki
Register
Advertisement
Desiderius Erasmus

Desiderius Erasmus oedd y person cyntaf i gyfieithu'r Beibl.

Hanes[]

Ganwyd yn 1469 yn Rotterdam, yr Iseldiroedd. Derbyniodd ei addysg gan Fynach Gatholig. Penodwyd ef yn Offeiriad yn Gilda yn 1492. Yna aeth i astudio ac yna yn athro ym mhrifysgol Paris. Yn 1499 bu'n dysgu ym mhrifysgol Rhydychen. Roedd ei waith cynnar yn canolbwyntio at gyfieithu llenyddiaeth glasurol Lladin. Tra yn Lloegr roedd Reasmus yn diddori'n fwy mewn cyfieithu a dehongli'r Beibl, ac yna dadansoddi athrawiaethau Iesu Grist.

Yn 1500 cyhoeddodd "The Handbook of the Militant Chritian". Roedd yn annog y darllenwyr i ddilyn Cristnogaeth oedd yn dod o'r galon ac nid trwy seremoniau ac arferion. Yn 1509, tra yn aros yng nghartref ei ffrind Syr Thomas More, bu'n ysgrifennu "In Praise of Folly" ble bu'n beirniadu'r prinder dadleuon am y glerigiaeth ac yn cwestiynu bywyd y mynachod. Rhwng 1509 a 1514 roedd yn Athro ym mhrifysgol Caergawnt. Yn dilyn hyn bu'n symud i Basle, y Swistir, ble bu'n treulio gweddill ei fywyd. Yn 1516 bu'n cyfieithu fersiwn Groegaidd gwreiddiol y Testamen Newydd i'r Lladin.

Cafodd effaith enfawr ar Loegr. Roedd yr effaith yma yn arbennig mewn addysg. Bu'n ysbrydoli grŵp o ysgolheigion, ac adnabuwyd y rhain fel Dyneiddwyr Cristnogol - gan eu bod yn credu mewn pwysigrwydd yn seiliedig ar fersiwn cywir o'r Beibl. Credany y dylai crefydd fod yn ffydd fewnol a phersonol pobl yn hytrach na dylanwadau allanol.

Bu farw Erasmus yn 1536.

Gwelwch Hefyd[]

Advertisement