FANDOM


Bedd Rhys ap Thomas
Gwrthryfel Rhys ap Gruffudd
Côd: HY1G.1
Dyfyniad(au): Y Mers
Canran Modiwl: 2%

Gwrthryfel Rhys ap Gruffudd oedd gwrthryfel bach a ddigwyddodd yng Nghymru yn 1529. Digwyddodd oherwydd dymuniad Rhys ap Gruffudd i etifeddu teitlau a chyfoeth ei dad, ond yn cael ei dwyllo oddi wrtho gan Harri VIII ei hun.

StoriEdit

Ym 1529 bu ffrwgwd yng Nghaerfyrddin rhwng Rhys a'r Arglwydd Ferrers ynglŷn â lletya eu gweision. Mewn gwirionedd, prif achosion y ffrwgwd oedd siom Rhys o beidio derbyn swydd o Siambrlen, ac agwedd haerllug yn hytrach yn derfysg lleol. O ganlyniad i'r dadlau rhwng y ddau wrth Gastell Caerfyrddin, arestiwyd Rhy. Fodd bynnag, gwaethygodd hyn y sefyllfa pan geisiodd ei ffrindiau ei ryddhau. Yn Nhachwedd 1529, fe ryddhawyd Rhys ar ôl sïon bod Rhys am ddial ar Ferrers, cafodd ei osod yn Nhwr Llundain, ac yna a bu tan Fehefin 1531. Rhyddhawyd ar ôl cyfnod o salwch.

Aeth yna ati i gynllwyno yn erbyn y Brenin, a chefnogi ymgais Iago V o'r Alban i ddiorseddu Harri VIII. Ac felly ym mis Medi 1531, arestiwyd unwaith eto. Cyhuddwyd o deyrnfradwriaeth, a dedfrydwyd i farwolaeth gan Lys y Brenin. Dienyddiwyd ar y 4ydd o Ragfyr 1531, yn 23 oed. Ynghyd a'i ddienyddiad, meddiannwyd holl diroedd ei deulu gan y frenhiniaeth.

Pwyntiau YchwanegolEdit

  • Roedd tad-cu Rhys ap Gruffudd, Rhys ap Thomas wedi haeddu'r teitlau a'r tir gan Harri VII oherwydd ei ymddygiad a phwysau da ym Mrwydr Bosworth.
  • Roedd Harri yn dechrau poeni am wahaniaeth mewn siroedd Cymru, a dechreuodd mewnblannu unigolion ymrwymiedig i mewn i'r Siroedd hyn er mwyn cynnal rheolau cyson ymhob man.

Gwelwch HefydEdit