Adolygu Lefel A Wiki
Register
Advertisement
Martin Luther

Martin Luther oedd Mynach yn Yr Almaen.

Hanes[]

Cafodd ei eni yn 1483 yn Eisleben yn Sacsoni i deulu oedd wedi ennill rhywfaint o gyfoeth trwy'r diwydiant mwyngloddio lleol. Er ei fod yn wreiddiol yn fwriad iddo ddilyn gyrfa gyfreithiol, penderfynodd yn sydyn i fod yn fynach, gan fynd i'r offeiriadaeth ym 1507. Daeth i'r amlwg am ei allu academaidd ym mhrifysgolion Erfwrt a Wittenburg. Erbyn 1515, roedd Luther hefyd wedi dod i'r amlwg yn yr urdd Aswtiniaidd. Ond ni fodlonwyd Luther gan y llwyddiannau hyn. Dywedodd ei fod am fod yn fynach o ganlyniad i'w deimlad o euogrwydd a'i deimlad o fethiant i fedru cyflawni gofynion Duw: 'Roeddwn am ddianc rhag uffern trwy fod yn fynach!'.

Yn ystod ei gyfnod o lwyddiant academaidd yn Wittenberg, cafwyd cyfres o argyfyngau personol i Luther wrth iddo wynebu'r broblem o sut y gallai ef, fel person amherffaith, fodloni Duw perffaith a sicrhau iachawdwriaeth. Ysgrifennodd yn hwyrach: "However irreproachable my life as a monk...I felt myself in the presence of God to be a sinner with a most unquiet conscience." Ym 1513-15, tra oedd yn paratoi cyfres o ddarlithoedd ar y Salmau, y darganfu ymwared o'i argyfwng.

Yn 1517, hoeliodd Luther ei 95 Dadl ar ddrws yr Eglwys Gatholig yn Wittenburg, yr Almaen. Roedd ei 95 Dadl yn beirniadu rheolaeth y Pab o'r Eglwys Gatholig - yn arbennig yr arfer o werthu maddeuebau, ac yn cwestiynu cyfoeth yr Eglwys Gatholig gan gofio mai dyn tlawd oedd Iesu Grist. Dynodir hyn fel gwraidd y ffydd Brotestannaidd.

Gwelwch Hefyd[]

Advertisement