FANDOM


Syrdiau ydy pob tro yr ail cwestiwn arholiad ac yn bennaf, mae'n hawdd os ydych yn deall y strwythur o wneud rhai. Mae gennym ni esboniad weddol trylwyr o wneud cwestiwn syrd mewn ffordd cronolegol.

EnghraifftEdit

                                   (5√7-√3)
                                   (√7-√3)

Yn gyntaf, mae angen cymryd gwaelod y ffracsiwn fel cysonyn. Hynny yw, mae angen lluosi’r top a gwaelod gyda cyferbyn y gwaelod sef: (√7+√3)

                              (5√7-√3) × (√7+√3)
                              (√7-√3)    (√7+√3)

Yn defnyddio CAMO (Cyntaf, Agos, Mwyaf, Olaf), mae angen lluosi’r top a’r gwaelod fel hyn:

                             5 × 7 - 3 - √3×7 + 5√7×3
                              7 - √3×7 + √7×3 - 3

Yna, symleiddiwch eich ateb, felly mae’r ateb yn edrych yn fwy taclus. Yn gyntaf, y top a’r gwaelod yn unigol.

                                   32 + 4√21
                                       4

Yna, gorffenwch eich ateb trwy troi’r hafaliad mewn i un llinell:

                                    8 + √21

A dyna eich ateb!