Adolygu Lefel A Wiki
Register
Advertisement
Torri o Rufain
Torri o Rhufain
Côd: HY1.1
Dyfyniad(au): Catholigiaeth, Protestaniaeth, Goruchafiaeth, Ysgariad
Canran Modiwl: 0.08%

Torri o Rufain oedd digwyddiad pwysig yn ystod cyfnod brenhiniaeth Harri VIII. Oherwydd materion gwahanol, penderfynodd Harri i ysgaru Catrin o Aragon, ond er mwyn gwneud hynny, roedd rhaid iddo fod yn Bennath ar yr Eglwys Gatholig. Ar yr amser hwnnw yn 1527, roedd y Pab yn rheoli'r Eglwys o Rufain. Er mwyn cyflwani'r ysgariad, gwthiodd Harri'r Deddf Goruchafiaeth a oedd yn datgan ei reolaeth o'r Eglwys.

Stori[]

Erbyn 1527, roedd y Diwygiad yn Ewrop wedi gwasgaru ar draws nifer o wledydd, ac felly roedd pwysau ar y Pab. Oherwydd doedd Catrin o Aragon methu magu bachgen (etifedd) i ddod yn Frenin ar ôl ef, yr unig beth allai ef wneud oedd priodi rhywun arall a oedd yn medru magu bachgen iddo. Oherwydd doedd hi ddim yn gyfreithiol iddo ysgaru, roedd rhaid iddo greu rheol a fydd yn rhoi'r hawl iddo wneud. Pwysleisiodd y Pab, ni allai Harri cyflwani'r weithred hon oherwydd y byddai'n torri un o reolau pwysig yr Eglwys Gatholig.

Roedd Harri erbyn hyn wedi dod i adnabod rhywun a fyddai'n gallu rhoi etifedd iddo, sef Anne Boleyn, acyn 1532 roedd hi'n feichiog a phlentyn Harri. Ond oherwydd plentyn allan o briodas ydoedd, roedd angen i Harri ceisio gwneud hi'n gyfriethiol. Gyda chymorth Thomas Cromwell, gwthiodd Harri y Pab allan o Loegr a Chymru. Yn bennaf, cwerylodd Harri mai priodas ef ei hyn oedd yn anghyfreithiol oherwydd gweddw ei frawd, Arthur, oedd Catrin, ac felly gwelodd fel dadl defnyddiol er mwyn helpu iddo creu rhesymau teulwng.

Dechreuodd y weithred olaf yn 1534, lle pasiwyd y Deddf Cyntaf Olyniaeth, yn gorfodi Catrin i gael ei gwahardd o'r frenhiniaeth er mwyn i Anne cymryd ei lle. Yn dilyn hynny yn Nhachwedd, fe ddaeth y Deddf Gourchafiaeth yn rhoi holl bwerau'r Eglwys i Harri ac yn ei osod ef fel Pennaeth yr Eglwys yn Lloegr. Cododd ei urddas a statws wrth gyflawni'r cam hwn ac yn ogystal ffurfiwyd mwy o barch gan y cyhoedd neu'r Werin.

Pwyntiau Ychwanegol[]

Bu Catrin yn gymeriad pwysig trwy ei bywyd oherwydd ei phoblogrwydd ymhysg bonedd Lleogr a thramor. Cymerodd ran blaenllaw yn y trafodaethau yn arwain at orffen y briodas. Gadawodd Harri Catrin yn 1531 a ni welodd hi ei gŵr na'i merch eto.

Roedd Anne yn ôl ac ymlaen yn ystod paratoadau yn y llys wrth ddadlau dros hawliau Harri. Roedd hyn yn dangos dylanwad hi dros y Frenin.

Roedd ymrwyiad yn amlwg yn Catrin, ond doedd hynny ddim yn digon ar gyfer dod a'r achos i'r llys. Pwysleisiodd i Harri, dylai aros yn ffyddlon iddi, mewn ffordd hiraethus, yn dangos ei theimladau hi.

Gwelwch Hefyd[]

Advertisement