FANDOM


Y Bererindod Gras
Y Bererindod Gras
Côd: HY1.G.2
Dyfyniad(au): Dianc, Statud y Defnyddiau, Dirwy Mynediad
Canran Modiwl: 4%

Y Bererindod Gras oedd gwrthwynebiad i ddigwyddiadau crefyddol Harri VII ar draws y wlad, ond roedd main yr anfodlonrwydd yn dibynnu ar yr ardal e.e gwelwyd mwy o brotestiadau yn y gogledd i gymharu a'r de. Roedd gwrthryfeloedd y gogledd rhwng 1536-7 yn cynnwys 3 gwrthryfel ar wahan ond roeddent dal yn gysylltiedig i'w gilydd, Gwrthryfel Swydd Lincoln yn Hydref 1536, Y Bererindod Gras o Hydref i Rhagfyr 1536 a Gwrthryfel Syr Francis Bigod yn Ionawr a Chwefror 1537.

StoriEdit

Roedd llawer o densiwn yn yr ardal Swydd Lincoln oherwydd gwaith comisiynwyr llywodraeth. Eu gwaith oedd diddymu'r mynachlogydd, casglu trethi, archwilio safonau'r offeiriaid a dechrau gweithredu cyfreithiau crefyddol newydd. Ond roedd llawer yn credu eu bod hefyd yn manteisio ar y sefyllfa drwy ddwyn aur a chodi trethi ychwanegol ymysg eraill.

Dechreuodd y gwrthryfel ar Hydref 1af 1536 yn Louth gydag un tebyg yn Horncastle, Swydd Lincoln. Lladdwyd Canghellor Esgobaeth Melton oedd arweinydd y protestiadau ond yn fuan datblygwyd i fod yn wrthryfel a oedd yn cynnwys bonedd leol, offeiriaid a hyd yn oed mynachod arfog. Yn Lincoln roedd tua 10,000 o bobl wedi cyrraedd i gefnogi, gyda llawer ohonynt yn Ynadon Heddwch. Roedd ganddynt nifer o erthyglau oedd yn cyfuno cwynion y bonedd a'r bobl gyffredin.

Er i'r bonedd a'r Werin gynhreirio, ni pharhawyd hyn ar ôl iddynt sylwi bod byddin Dug Sufolk ar y ffordd. Yn wyneb y perygl o gael eu cyhuddo o deyrnfradwriaeth bu i'r 18 prif fonedd gofyn am bardwn ac fe ddaeth y gwrthryfel i ben. Heb eu harweinyddiaeth doedd dim trefn i'r gwrthryfel a bu rhaid i'r werin dychwelyd gartref.

Ymwelodd y newyddion o wrthryfel Swydd Lincoln yn gyflym, ac erbyn y 4ydd o Hydref daeth i sylw Robert Aske, cyfreithiwr o Swydd Efrog. Dosbarthiodd llythyrau ar draws y sir, yn galw ar bobl i gynnal yr Eglwys Gatholig. Roedd y Pererindod Gras yn gyfres o wrthryfeloedd rhanbarthol cysylltiedig, yn hytrach a un gwrthryfel unedig.

Erbyn y 10fed o Hydref, roedd Aske yn arweinydd o fyddin o 30,000 o ddynion. Pencadlys y gwrthryfelwyr oedd Dinas Efrog, cyn iddynt feddiannu Castell Pontefract prif amddifynfa'r gogledd. Roedd Aske yn benderfynol o sicrhau disgyblaeth ymysg y gwrthryfelwyr e.e bod dim lladrata neu lofruddiaeth.

Roedd y gwrthryfelwyr wedi meddiannu rhan fwyaf o ogledd Lloegr. Roedd Harri VIII nawr yn wynebu byddin llawer mwy na'i fyddin frenhinol ef. Ac o ganlyniad, fe ddanfonodd Dug Norfolk i drafod gyda'r gwrthryfelwyr. Fe gylfwynodd y gwrthryfelwyr rhestr o ofynion i Ddug Norfolk a oedd yn cynnwys:

  • Fwy o lais i'r gogledd ym materion y genedl.
  • Gwaredu ar rai o brif gynghorwyr Harri VIII e.e Thomas Cromwell.
  • Diddymu rhai o ddiwygiadau crefyddol Harri VIII.

Arwyddwyd cadoediad ar y 27ain o Hydref, rhwng y Brenin a'r gwrthryfelwyr. Serch hynny, nid oedd Harri yn barod i gyfaddawdu, ond roedd yn fodlon cynnig pardwn o bob un o'r gwrthryfelwyr, heblaw am y 10 prif arweinydd.

Bu cyfarfof rhwng arweinwyr y gwrthryfel a chynrychiolwyr y Brenin yn Pontefract rhwng y 2ail a 4ydd Rhagfyr er mwyn trafod gofynion y gwrthryfelwyr. Rhoddodd Harri VIII caniatâd i Norfolk rhoi pardwn cyffredinol i'r gwrthryfelwyr a chadoediad, yn ogystal â'r addewid i drafod y gofynion yn y Senedd. Cytunodd Aske ond pwysleisiodd na ddylid parhau a'r broses o gau'r mynachlogydd nes i'r Senedd gyfarfod.

Credai Aske ei fod yn llwyddiannus ond am wythnosau ni ddigwyddodd dim. Nid oedd yr amodau yn ysgrifynedig, ac nid oedd gan Harri fwriad o gadw ei addewid o bardwn gyffredinol.

Yn y cyfamser dechreuodd gwrthryfel arall, sef Gwrthryfel Syr Francis Bigod, am ei fod yn amheus o addewidion y Brenin. Fe gynlluniodd i feddiannu Hull a Scarborough, ond am ei fod yn gynllun mor uchelgeisiol methiant a fu o fewn dyddiau. Dihangodd Bigod ond cafodd ei arestio yn Cumberland.

Roedd y gogledd yn disgwyl cadarnhad o'r termau a gytunwyd gyda'r Brenin, ond nid oedd gan Harri unrhyw fwriad o gadw at ei air. Profai gwrthryfel Bigod nad oedd modd i Harri ymddiried yn y gwrthryfelwyr, ac aeth ati i ddial arnynt yn syth. Lladwyd 178 ohonynt, gan gynnwys Aske, yr Arglwydd Darcy, a Bigod, a dinistriwyd y teulu Percy, pendefigion blaenllaw'r gogledd. O ganlyniad i'r Pererindod Gras, rhoddwyd mwy o rym brenhinol yn y gogledd drwy gryfau Cyngor y Gogledd.

Pwyntiau YchwanegolEdit

  • Y prif rheswm dros y gwrthryfeloedd cysylltiedig yma oedd newidiadau crefyddol yn yr wlad oherwydd gweithredoedd cryf Harri VIII. Doedd dim modd gan y gwrthryfeloedd, yn anffodus, i wrthwynebu'n gryf a llwyddo i rhwystro unrhyw rhan o'r diwygiad yn y cyfnod. Roedd hi'n hollol gwarthus o ran canlyniad.

Gwelwyd HefydEdit