Adolygu Lefel A Wiki
Register
Advertisement

Y Gŵr Sydd ar y Gorwel yw cerdd gan Gerallt Lloyd Owen sy'n pwysleisio rhywun fel arwr. Mae nifer o bobl yn credu mai Saunders Lewis yw'r unigolyn sy'n cael ei ddyrchafu yn y gerdd hon. Mae ambelli air neu frawddeg yn cyfleu hynny iddom ni.

Cerdd[]

                               Nid eiddil pob eiddilwch,
                            Tra dyn, nid llychyn pob llwch;
                               Ac am hynny, Gymru, gwêl
                                Y gŵr sydd ar y gorwel,
                                 Y miniog ei ymennydd
                               Y ffŵl anfeidrol ei ffydd.
                              Ar ei wedd mae ôl breuddwyd,
                             Yn y llais mae'r pellter llwyd,
                             Ond ei ddysg a'i ddistaw ddod
                                 Ni wybu ei gydnabod,
                               Fel y Gŵr eithafol gynt
                              Fu ar drawst farw drostynt.
                                Y gwrol un a gâr wlad
                               A gwerin na fyn gariad.
                                Naddodd ei galon iddi
                              A chell oedd ei diolch hi.
                               Am wir act o Gymreictod
                           Ennill ei chledd yn lle'i chlod.
                               Gymru ddifraw, daw y dydd
                                  Y gweli dy gywilydd.
                               Ni all sŵn ennill senedd,
                             Ni ddaw fyth heb newydd fedd.
                                Ac am hynny, Gymru gwêl
                                Y gŵr sydd ar y gorwel.

Llinellau orau'r iaith Gymraeg

Cynnwys y Gerdd[]

Cywydd byr a gawn yma sydd â phedwar pennill o'r un hyd ac ynddynt dri chwpled yr un. Symuda'r gerdd mewn cylch cyflawn (Cymharer ag Ysgerbwd Milwr) - mae'n dechrau ac yn gorffen gyda'r un meddylfryd, yr un neges a'r un ple:

                          "Ac am hynny, Gymru, gwêl
                          Y gŵr sydd ar y gorwel."

Clywir y bardd yn llefaru yma. Mae'r cywydd yn elwa ar ganu proffwydol yr oesau canol a thema'r mab darogan sef arwr a ddeuai i waredu'r genedl o'r gorthrwm sydd arni.

Nid yw'n enwi'r gwaredwr yn uniongyrchol ac mae hyn yn adleisio'r cywyddau brud o'r bymthegfed ganrif. Yn nhraddodiad y canu proffwydol roedd amysedd yn rhinwedd. Dywedir mai Saunders Lewis yw'r mab darogan yma ond gellid hefyd ei ddarllen fel ymdrech i agor llygaid y genedl i ymdrechion unrhyw berson sydd yn gweithredu dros eu cenedl a'i hiaith. Oherwydd yr amwysedd hwn mae gan y gerdd y gallu tragwyddol i oroesi bywyd unrhyw unigolyn penodol. Felly er ei bod yn cyfeirio at faterion cyfoes yng Nghymru, mae i'r gerdd naws gwireb, ddigyfnewid. Fe atgyfnertha'r bardd y wedd hon ar ei gywydd drwy ei agor â chwpled diarhebol:

                          "Nid eiddil pob eiddilwch,
                       Tra dyn, nid llychyn pob llwch."

Roedd Saunders Lewis yn ddyn eiddil a gwan yr olwg, ond nid felly ei bersonoliaeth, roedd yn gymeriad cryf a phenderfynol iawn. Mae'n cael ei alw'n ffŵl yn y cywydd, ond nid gair Glo yw hwnnw ond un y Cymry a'i beirniadodd. Er bod llais Saunders Lewis hefyd yn eiddil a dinod, roedd yr hyn oedd ganddo i'w ddwued yn syfrdanol. Ond clywed y llais gwan yn hytrach na'r neges gref a wnâi llawer o bobl y cyfnod.

Ceir yn y ddwy linell hyn drwy ddihareb gyfoes. Maent, fel y llinell "nid gwerth nad gwerin gaeth" a welir yn Fy Nghwlad, yn adleisio cystrawen diarhebion traddodiadol. Paratoi'r ffordd ar gyfer datgan dyfodiad y mab darogan a wna'r llinellau hyn. Fe bwysleisia'r ddwy ddihareb hyn nad bychan a dibwys yw pob peth sydd yn ymddangosiadol fychan, ac felly yng nghyd-destun y cwpled proffwydol sydd yn dilyn y llinellau agoriadol hyn y maent yn awgrymu y gall cyfraniad un person at yr achos cenedlaethol fod yn amhrisiadwy. Drwy gyfuno'r proffwydol a'r diharebol yn y pennill cyntaf mae GLIO yn cryfhau ei neges wleidyddol. Mae'r diarhebion yn fodd i osod rhith doethineb y canrifoedd i ddatganiad y bardd.

Yn yr ail bennill mae'r bardd yn canolbwyntio ar bryd a gwedd Saunders Lewis. Ymddengys yn freuddwydiol - ond proffwyd yn ei wlad ei hun nid breuddwydiwr gwag ydyw,

                         "Ar ei wedd mae ôl breuddwyd
                       Yn y llais mae'r pellter llwyd."

Wrth iddo ddatgan dyfodiad/bodolaeth y gwaredwr cenedlaethol mae'r bardd-siaradwr yn dadlennu perthynas ystyrlon rhyngddo ag ef. Fel y mae cerddi eraill gan Gerallt Lloyd Owen megis Fy Ngwlad a Cilmeri yn defnyddio'r berthynas agos a fu rhwng y bardd canol oesol a'i noddwr, mae'r cywydd hwn yn darlunio perthynas agos rhwng y gweithredwr (h.y gwaredwr) a phwy bynnag a fo'n cofnodi neu'n cydnabod gweithrediadau'r gwaredwr. Ond nid perthynas bardd a noddwr sydd rhwng y siaradwr a'r mab darogan yn y gerdd hon, eithr perthynas a seilir ar debygrwydd - gwleidyddion yw'r ddau.

Mae GLlO yn cymharu Saunders Lewis â Christ "fel y gŵr eithafol gynt" sef yr un a "fu ar drawst farw drostynt". Y mae gymhariaeth â Christ yn drawiadol iawn, un nad yw ei bobl ei hun yn gweld ei werth, ond eto un sy'n barod i roi ei fywyd dros ei wlad. Wrth gwrs roedd Crist yn rhoi ei einioes dros ddynoliaeth, roedd ef am achub dyn rhagddo fe'i hunan, tra bod Saunders Lewis am achub Cymru rhag ei ffoelineb a'i dallineb ei hunan. Mae'r bardd yn llawn dicter ac embaras am fod y genedl yn gwawdio un a geisiodd ei hachub.

Mae pob cwpled yn y trydydd pennill yn cychwyn gyda'r hyn mae Saunders Lewis wedi'i wneud dros Gymru a'r ail linell yn crynhoi'r hyn a gafodd yn ôl gan ei wlad. Tristwch y bardd yw nad yw'r genedl Gymreig ar y cyfan wedi sylweddoli main ei gyfraniad a phwysigrwydd ei weledigaeth i Gymru. Nid yw hyd yn oed y rhai hynny sy'n ei adnabod yn sylweddoli ei werth a'i fawredd. Meddyliant amdano fel breuddwydiwr eithafol yn hytrach na fel un sy'n fawr ei werth a'i fawredd. Meddyliant amdano fel breuddwydiwr eithafol yn hytrach na fel un sy'n fawr ei weledigaeth. Yn lle diolch iddo am weithred Penyberth roedd y Cymry yn ei gondemio a'i drin fel fandal, ei garcharu ac yna'i ddiswyddo yn hytrach na rhoi iddo eu diolch a'i droi'n arwr cenedlaethol.

Themau[]

Arddull y Gerdd[]

Mesur[]

Cywydd

Defnyddia'r bardd fesur sy'n adlewyrchu'r hen Draddodiad Barddol Cymreig o foli arwr a phroffwydo peryglon. Defnyddir y cynganeddion i bwysleisio naws ei neges a dwyster y geiriau.

Cynghanedd[]

"Nid eiddil pob eiddilwch"

"Y gwrol un a gar wlad"

"Ennill ei chledd yn lle'i chlod"

Mae'r gynghanedd yn pwysleisio nad yw popeth sy'n ymddangos yn wan ac yn eiddil o reidrwydd felly. Gosodir naws y gerdd yn y llinell gyntaf hon. Mae sain gref y gynghanedd yn pwysleisio parch y bardd tuag at Saunders Lewis, y gwr dewr a gara'i wlad. Pwysleisia'r gynghanedd groes mor derfynol a syml oedd ymateb y Cymry i wir act Saunders o Gymreictod ym Mhenyberth.

Advertisement